top of page
Film Reels

Adolygiad o’r ffilm Hedd Wyn

Dyma ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn. Ysgrifennwyd y sgript gan Alan Llwyd a’r cynhyrchydd yw Paul Turner.  Alan Llwyd oedd awdur y gyfrol ‘Gwae fi fy myw’, hunangofiant Hedd Wyn. Huw Garmon sy’n serennu fel Hedd Wyn yn y ffilm. Cafodd y ffilm ei henwebu am Oscar ym 1994. Cafodd y mwyafrif o’r golygfeydd eu saethu yn ardal Trawsfynydd. Dyma oedd pentref genedigol Hedd Wyn a hefyd lle mae’r ‘Ysgwrn’ wedi’i lleoli, sef ffermdy Hedd Wyn a’i deulu. Trwy gydol y ffilm gwelwn gyferbyniad rhwng y golygfeydd swynol cefn gwlad Meirionnydd a’r golygfeydd cignoeth o erchylltra’r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn. Dyma un o gryfderau’r ffilm. Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2005 mewn casgliad o ffilmiau gan S4C.

Cerddoriaeth:  John E.R.Hardy

Sinematograffeg: Ray Orton

Sain:  Julie Ankerson

Dylunio:  Jane Roberts, Martin Morley

Cynnwys

Trwy gydol y ffilm gwelwn fywyd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn fel mae'r mwyafrif ohonom ni yn adnabod. Roedd Ellis wedi gadael ysgol yn 14 oed a flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ei orfodi i ymuno â’r rhyfel. Wrth ymladd yn Ffrainc, defnyddiodd pob munud rhydd i weithio ar ei gerdd, ‘Yr Arwr’ a chafodd ei phostio trwy’r post i Eisteddfod Genedlaethol 1917. Mis wedyn lladdwyd Hedd Wyn, ond goroesodd ei gerdd ac yn ei absenoldeb, fe’i gwobrwywyd gyda’r wobr roedd e wedi dymuno’i hennill trwy gydol ei fywyd.

Pwy yw Huw Garmon?

Mab i'r hanesydd Richard Cyril Hughes yw Huw Garmon, sef yr ieuangaf o bedwar plentyn. Ganwyd yn Hydref 1966 yn Ynys Môn. Bu hefyd yn un o gymeriadau ‘Pobl y Cwm’, sef Steffan Humphries rhwng 1997 a 2004. Er ei fod yn cael ei adnabod am rannau sydd trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hefyd wedi ymddangos ar raglenni teledu Saesneg fel ‘Cadfael’ gyda Derek Jacobi. Ymddangosodd yn y ffilmiau, ‘Bride of War’ (1998) a ‘Killer Elite’ (2011). Yn 2016 ymunodd â’r opera sebon S4C, ‘Rownd a Rownd’. Mae Huw Garmon wedi priodi gyda thri o blant.

Technegau ffilmio a cherddoriaeth

Mae’r technegau ffilmio yn hanfodol trwy gydol y ffilm wrth gyflwyno stori hanesyddol a thorcalonnus y bardd o Drawsfynydd, Hedd Wyn.  Ar ddechrau’r ffilm mae saethiadau agos o’r gadair yn arwyddocaol gan mai nod Hedd Wyn oedd ennill y gadair. Fel cynulleidfa rydym yn deall bod y gadair yn wobr fawreddog i’w hennill ac mae’r saethiad yma yn uwcholeuo ei phrydferthwch ac yn awgrymu traddodiad. Yn yr un olygfa mae awyrgylch dramatig yn datblygu oherwydd y gerddoriaeth bwerus. Mae’r tensiwn yn codi wrth i ni glywed crescendo ac anghytgord pan nad ydy Hedd Wyn yno yn y pafiliwn i godi ar ôl geiriau Dyfed yr Archdderwydd, “Os ydy’r bardd sy’n dwyn y ffugenw Fleur de Lis yn bresennol, safed ar ei draed.” Yn yr olygfa nesaf, effeithiol iawn ydy’r defnydd o drosleisio llais Ellis wrth iddo lefaru pennill cyntaf Awdl, ‘Yr Arwr’ ar faes y gad ym mhresennol y ffilm, sef 31 o Orffennaf 1917. Fan hyn cawn ddeall taw barddoniaeth oedd cannwyll llygaid Hedd Wyn. Dyma’r peth olaf ar ei feddwl cyn iddo farw. Eto mae saethiad agos yma, ond o gymeriad canolog y ffilm, sef Hedd Wyn ac nid y gadair. Nesaf mae yna bont-sain er mwyn cysylltu golygfeydd. Wrth wneud hyn, fel cynulleidfa cawn ragfynegi beth sydd i ddod a’r fath o naws a geir yn yr olygfa nesaf.

Ceir sawl golygfa hyfryd yn Nhrawsfynydd yn dangos gwyrddni’r lle. Cawn glywed sŵn yr adar ac mae’r thema o fyd natur yn cael ei phwysleisio. Un o’r golygfeydd sy’n aros yn y cof yw honno pan welir Hedd Wyn a Lizzie yn ymddwyn yn chwareus ar lan yr afon. I gyferbynnu a hyn, cawn olygfeydd o faes y gad lle clywn sŵn bomiau a gynnau. 

Thema allweddol arall yn y ffilm yw heddychiaeth a William Morris yw llais heddychiaeth. Cawn weld rhagrith crefydd wrth i un pregethwr annog bechgyn ifanc i ymuno a’r fyddin.

 

Un o rinweddau’r ffilm yw’r defnydd o ferch ddelfrydol, sef Arianrhod, yn adrodd cerdd fuddugol Hedd Wyn hwnt ac yma “Bum yn ddraig pan godai gad, Arwyr i’r tiroedd irad; A bum darian i’r gwan gynt, Ar draeth alaeth a helynt; Ac ar fy rhydd, gywir fron. Mae gwaed pob Armagedon.”

Eironi

Defnyddir eironi yn gyson trwy gydol y ffilm, yn enwedig yn y ddeialog. Rhai o eiriau cyntaf Hedd Wyn yn y ffilm yw dweud wrth ei frawd “Cei di rhyw ddiwrnod”. Yma mae’n cyfeirio at y ffaith bydd Bob, sef brawd ifanc Ellis, yn cael gwaith fel Hedd Wyn ar y fferm rhyw ddydd, ond mae’r diwrnod yma yn dod yn gynharach nag y mae pawb yn ei ddisgwyl wrth i Elis fynd i’r rhyfel yn 1917. Rhan eironig arall o’r ffilm yw pan glywn yn Eisteddfod Pwllheli 1913, “Y gwir yn erbyn y byd, a oes heddwch?” a gwelwn Ellis yn cael ei saethu ar faes y gad. Gwelwn eironi eto pan fod Lizzie am briodi Ellis Humphrey Evans ond ei ymateb ef yw, “Digon o amser i betha felly”. Rydym yn gwybod nad oes llawer o amser ar ôl gyda’r ddau i briodi, gan fod y ddau yn marw o fewn byr o dro, Lizzie oherwydd salwch a Hedd Wyn oherwydd y rhyfel.

 

Cymeriadau

Hedd Wyn ydy prif gymeriad y ffilm gan ei fod wedi amgylchynu o gwmpas ei fywyd. Chwaraewyd rhannau'r mam a’r tad, sef Mary Evans ac Evan Evans gan Gwen Ellis a Grey Evans.

 

Merched

Mae’r tair merch yn chwarae rôl bwysig ym mywyd Hedd Wyn yn y ffilm, Lizzie Roberts, Jini Owen a Mary Catherine Hughes. Chwarewyd Lizzie gan Sue Roderick, Jini gan Judith Humprheys a Mary Catherine gan Nia Dryhurst. Yn gyntaf cawn ddod i nabod Lizzie. Dyma gymeriad sydd yn awyddus i briodi Hedd Wyn, er nad yw ef yn rhannu’r un brwdfrydedd. Cawn yr argraff nad yw Lizzie yn llwyr werthfawrogi diddordeb Ellis yn barddoni. Hwyl yw sail eu perthynas nhw. Fodd bynnag erbyn diwedd y ffilm, er i Lizzie gael ei denu gan ramantiaeth rhyfel, fe ddaw i gyfaddef mai Hedd Wyn oedd yn iawn ar hyd yr amser am greulondeb rhyfel. Jini ar y llaw arall yw’r gwir gariad ac ati hi y byddai Hedd Wyn wedi dychwelyd pe bai wedi byw. Hedd Wyn y bardd sy’n denu Mary Catherine gan fod ganddi hithau ddiddordeb mewn geiriau a barddoniaeth. Gwelwn felly bod gan y merched oll bwrpasau gwahanol yn y ffilm.

Yn bendant, dyma ffilm sy’n werth ei gweld! Yn naturiol, ceir tristwch enbyd yma, ond mae digon o hiwmor ar hyd y daith a neges obeithiol bod celfyddyd bob amser yn codi uwchlaw rhyfel. Neges obeithiol i gyd! Ewch i’w gwylio!  Mae’n sicr yn haeddu 5 seren!

Llythyron dychmygol gan Hedd Wyn at ei gariadon yn y ffilm “Hedd Wyn”

 

Yr Ysgwrn,

Trawsfynydd,

                                                                                                                                                                                                

Penstryd,

Trawsfynydd,

Gwynedd, Cymru.

 

Annwyl Lizzie, fy mlodyn gwyllt,

Rwy am ofyn i ti pa beth y dylwn ei wneud? Y prynhawn hwn es i Ffestiniog gan ddisgwyl prynhawn digon tawel. Ond nid felly y bu. Cyfarfod oedd yno. A dyna i ti oedd cyfarfod i ddweud y gwir, cyfarfod recriwtio yn Ffestiniog gyda’r gweinidog yn annog pobl i ymuno, yn rhagrith i’w grefydd. Yn rhagrith i fy nghrefydd i! Diddorol oedd gweld ymateb gwahanol pawb, a sylwaist di? William Morris, fel fi yn wrthwynebydd cydwybodol gan weiddi “Mae’n pregethu efengyl cabledd.” Beth ddigwyddodd i’n byd, pa ddatblygiad yw hwn? Gwrthryfela o fewn yr un grefydd fydd nesaf, dychmyga hynny! Gyda phropaganda ymhob man, a’r defnydd o iaith berswadiol bydd pawb yn ymuno â’r rhyfel cyn hir, pawb yn cael eu dallu, yn union fel Gruff. Gruff druan, yn ifanc, ond am wneud y peth cywir. Ei benderfyniad o, ond ai dyma yw’r penderfyniad cywir? Beth sy’n well i’r wlad a’i phobl, ymuno â’r rhyfel neu beidio? Rhyfel, dyma air sydd â phresenoldeb oeraidd sy’n rhoi ias lawr fy nghefn. Gair sy’n trywanu, wrth droi dyn yn erbyn dyn a ffrind yn erbyn ffrind.

 

Wyt ti’n cofio’r tro, pan oedden ni’n dau ar lan yr afon? Yn ceisio dal brithyll dan y dŵr, dyna oedd hwyl a sbri. Yn nofio’n noeth a chdi yn mynd â fy nillad, y g’nawes fach! Y diwrnod braf yn atgyfnerthu fy nheimladau. Teimladau o ddedwyddwch yn goleuo fel golau’r haul.  Ni allaf anghofio chwaith sŵn y gynnau yn amharu. Lizzie, pam y dylen ni gael ein cosbi oherwydd bod y Saeson am hyfforddi yn filwrol, a bod yn rhan o ryfel mor ddibwrpas? Nid dim ond ni sy’n cael ein cosbi, ond dydy fy narnau ysgrifenedig ddim o safon yn ddiweddar, sut felly gallaf ennill y gadair? Rwy’n poeni Lizzie, gyda’r rhyfel hwn a fydd pobl yn anghofio caru cyd-ddyn? Rwy’n rhagweld dirywiad, ni fydd cariad yn bodoli yn ystod rhyfel, rwy’n sicr o hynny.

 

Ni allaf gredu bod Eisteddfod Bangor wedi ei gohirio! Dyma rwystr arall i mi allu cyrraedd fy nod, i ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Oes gennyt ti ffydd ynof fi? Lizzie, gallwn oresgyn y rhwystrau yma gan gyrraedd fy nod! Meddylia am y miloedd ar filoedd o rwystrau a fydd yn wynebu'r milwyr, nid yw pobl yn ystyried hyn! Druan ar Gruff. Felly Lizzie, wyt ti dal yn meddwl y dylwn i ymuno â’r fyddin, enlisitio? Wyt ti wir am i mi gymryd y risg o golli fy mywyd? Pa gyngor sydd gennyt ti i mi dros y sefyllfa? Mae gen i awydd i dy weld di eto, hoffwn drefnu pryd i gyfarfod nesaf. Er efallai nad dyma beth rwyt ti eisiau, rwy’n hapus nad oes pwysau arnon ni briodi. 

Cariad mawr,

Ellis.

 

                                                                                            ***

 

Yr Ysgwrn,

Trawsfynydd

Gwynedd, Cymru.

 

Heol Pen y Gareg,

Trawsfynydd,

Gwynedd, Cymru.

 

Anwylaf un,

Jini Owen, nid oes un person fel chi! Ysgrifennaf atoch chi heddiw i chi gael gwybod fy mhenderfyniad ynglŷn â’r rhyfel. Y rhyfel a fydd, mae’n debyg yn arwain at ddinistrio tir ac eiddo, heb sôn am ddadleoliad dinasyddol a straen ôl-drawiadol, yn enwedig ar y milwyr. Ond Jini annwyl, y mae’n rhaid i mi fynd. Nid oes ffordd y gallaf i adael i Bob fynd, mynd ar daith i’w farwolaeth. Ydy, mae Bob am fynd, ond Jini mae o’n ifanc, a dydy o’n amlwg heb bwyso a mesur goblygiadau ei benderfyniad. Gwelaf Gruff yn Bob, Gruff a gafodd ei ddallu i ymuno â’r rhyfel, a dydy o ddim gyda ni bellach. Ni allwn fyw gan wybod taw fi ydy’r rheswm bod Bob wedi colli ei fywyd. Heb os nac oni bai mae’r rhyfel yn atgas i mi.

 

Rhof fy addewid, nid anghofiaf i fyth amdanoch chi, y ferch gwnes ei chwrdd ar y trên. Fe wnaf ffarwelio â chi ar y trên hefyd, mae’n bur debyg. Merch ddiniwed a oedd eisoes yn fy adnabod i, gan ddweud fy mod i’n dueddol o guddio tu ôl i ffugenw oherwydd fy mod i’n fardd. Cofiaf chwarae ar atebion ein gilydd, wyt ti’n cofio hynny hefyd? 

 

Ydych chi’n cofio’r tro gwnaethom ni gwrdd yng nghefn gwlad, gyda lliwiau hardd a byd natur o’n cwmpas gan ganu caneuon serch ysgafn. Un o ddiwrnodau gorau fy mywyd. Jini, roedd gennyf i fwriad i’ch priodi chi, eich priodi chi ac yna byw gweddill ein bywydau yn hapus, gyda’n gilydd. Dychmygwch hynny, byw yn Nhrawsfynydd gan greu teulu, teulu a fydd yn llwyddiannus ac yn llon. Jini, os caf y cyfle dof yn ôl i’ch priodi chi. Os caf y cyfle, fe ddof. Jini, rwy’n ofni na chaf y cyfle i orffen fy ngherdd, cerdd a fydd yn fy ngalluogi i gyrraedd fy nod, sef i ennill y gadair. Rwy’n edrych ymlaen at eich gweld chi eto, er pwy a ŵyr pryd caf gyfle i ddychwelyd atoch. Nid oes bod dynol yn cymharu â chi.

Cariad tragwyddol,

Ellis.

 

                                                                                                                ***

 

 

Annwyl Mary Catherine, fel blodyn lili ddŵr, mor bur a diniwed.

Rwy’n ofni mai dyma’r llythyr olaf byddaf yn ei ysgrifennu atat. Pwy a ŵyr, efallai na chaf y cyfle i ysgrifennu darn arall o farddoniaeth eto... Nid oes amheuaeth mai barddoniaeth a ddaeth â ni at ein gilydd. Mae gen i obaith fod fy ngerdd, ‘Yr Arwr’ wedi ei hanfon i’r Eisteddfod, ydy’r sarjant wir am fod mor hunanol ag i beidio ei hanfon? Ond ydy hi’n ddigon i ennill y gadair, neu ydy’r amgylchiadau poenus, peryglus ac erchyll wedi dinistrio fy nghyfle?   

 

Cefais hyfforddiant hollol erchyll yn ogystal â hiliol, ia hiliol! Nid oedd gair o Gymraeg i’w glywed gan y Swyddogion, er bod y mwyafrif ohonom ni’n gallu siarad yr iaith. Diffyg parch llwyr! Mary, mae ein gwlad ni yn dirywio, gan gynnwys ein hiaith. Gwelaf bob dim yn gwaethygu o fy mlaen, dyma deimlad digalon. Mae pob sarjant yn fygythiad i ni'r Cymry, ac yn ein trin ni yn israddol. Wrth iddynt ddangos awdurdod maent yn nawddoglyd, ac mae gwrthdaro rhwng y ddau ddiwylliant yn amlwg. Ni allaf farddoni yma, mae’r amgylchiadau yn wrthgyferbyniad llwyr i Drawsfynydd. Pob noson, mae’r dynion yn ymuno â diwylliant y rhyfel gan fynd i’r dafarn , ond i mi, Mary Catherine mae’r gadair yn bwysicach. Mae’n fy ngwylltio i, bod fy nghlustiau yn clywed caneuon Saesneg yn hytrach na Chymraeg. Rwyf am ddod adref Mary Catherine.

 

Beth oeddet ti’n ei feddwl am y darn diweddaraf o farddoniaeth gwnes i ei ysgrifennu? Cofia, y ffordd orau o ysgrifennu yw taflu dy gerddi yn yr afon, gan aros iddyn nhw ddod yn ôl yn gryfach ac yn well. Mary Catherine, os nad ydw i’n dod nôl, dos i’r afon i fy ngweld i, byddaf i yna bob tro yn feddyliol. Ni chaf ddweud yn union ble ydwyf i ond gallaf ddweud ein bod ni yn paratoi i fod yn y llinell flaen o frwydr fawr, brwydr fawr a fydd siŵr o fod yn arwain at golli bywydau di-rif. Mae arnaf i ofn, ofn colli popeth. Yn farw, ni fyddaf yn gweld y gwyrddni sy’n amgylchynu’r Ysgwrn, na chwaith goleuni’r haul sy’n sicrhau gwynfyd. Ni fydd agosatrwydd bellach rhyngof fi a fy nheulu. Ni fydd sŵn yr adar yn canu i fy nghlustiau. Efallai mai’r peth diwethaf byddaf yn ei glywed ydy ffrwydradau, pŵer ffrwydrol sy'n deillio o ryddhau ynni yn sydyn. Ond Mary Catherine, rwyf am i chi wybod bod fy heddychiaeth yn parhau yn gryf ac rwyf yn dal i weld fy hun fel pabi gwyn yng nghanol yr holl ladd a rhyfela.

Cariad,

Ellis.

 

***

 

Yma ym mynewent Artillery Wood y mae corff Hedd Wyn yn gorffwys. Yma, ymhell o Drawsfynydd. Ymhell o fro ei febyd. Trysorwch eich rhyddid am ei fod yn werthfawr, gan fod y rhestr o’r rhai ifanc a diniwed a fu farw yn ddi-ben-draw.

 

Nawr rydych chi’n gwybod y stori. Stori a ddaeth â fi'r holl ffordd i fynwent Artillery Wood yn Boezinge i dalu gwrogaeth i Hedd Wyn.

Gwyliwch ein DVD!

© 2023 by Name of Site. Proudly created with Wix.com

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon
  • Instagram Social Icon
bottom of page