
Cyfweliad gyda disgybl
A hithau dros gan mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn, dyma gyfle i holi un o’n pobl ifanc am bwysigrwydd ei gofio.
Pam wyt ti o’r farn fod cofio Hedd Wyn yn bwysig?
Grace Lancey- Sylweddolais wrth glywed am gerdd fuddugol Hedd Wyn “Yr Arwr”, ei fod ef ei hun mewn gwirionedd yn arwr! Rydw i hefyd yn credu bod ei nai, Mr Gerald Williams yn arwr.
Pam wyt ti’n dweud bod Hedd Wyn yn arwr?
Grace Lancey- Mae Hedd Wyn yn arwr oherwydd gwnaeth e aberthu ei fywyd ei hun i achub bywyd ei frawd ifancach. Er bod gan ei frawd ddiddordeb mewn mynd i’r rhyfel, roedd Hedd Wyn yn gwybod gwir erchylltra rhyfel ac eisiau gwarchod ei frawd.
Fe soniaist dy fod yn meddwl bod nai Hedd Wyn yn arwr hefyd. Pam?
Mae Gerald Williams wedi rhoi ei fywyd i gofio am Hedd Wyn wrth gynnal a chadw'r Ysgwrn. Mae’n gwneud i chi sylweddoli bod Hedd Wyn wedi cael argraff ddofn ar lawer o bobl yng Nghymru.
Wyt ti’n meddwl bod hanes Hedd Wyn yn gallu ysbrydoli person?
Ydw, oherwydd gall ysbrydoli beirdd ifanc i ddilyn eu breuddwyd. Fe lwyddodd Hedd Wyn i gyrraedd ei nod ar ôl llawer o waith caled. Mae’r Ysgwrn a hanes Hedd Wyn yn adrodd llwyddiant un dyn cyffredin i gyflawni’r anghyffredin wrth ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl wynebu sawl rhwystr!
